RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Amgylchedd > Cadwraeth a bioamrywiaeth

Cadwraeth a bioamrywiaeth

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Cadwraeth a bioamrywiaeth

Mae Dŵr Cymru yn berchen llawer o dir ac yn gwmni sy’n cynnal prosesau a gweithgareddau sy’n gallu cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd. Yn y cyd-destun hwnnw, mae wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth ar ei dir ei hun ac i sicrhau na fydd ei weithgaredd yn cael effaith andwyol ar lefelau bioamrywiaeth mewn afonydd a’r môr.

Rydym wedi datblygu polisi clir sy’n disgrifio’n dulliau o drafod Bioamrywiaeth ac wedi cyhoeddi Arolwg Bioamrywiaeth trafod ein gwaith yn y maes yn fwy manwl.

Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal bioamrywiaeth wrth wella ansawdd y dŵr mae’n arllwys i afonydd a’r môr. Un ffactor bwysig yn y broses o wella cynefinoedd morol a dŵr croyw yw’r buddsoddiad mawr mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff ac i wella gorlifiadau carthffosiaeth cyfunol dros y 10 mlynedd diwethaf.

Byddwn yn targedu buddsoddiad ym meysydd allweddol: sef gwella ansawdd dŵr a ryddheir o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff; diogelu afonydd a’r arfordir rhag llygredd yn ystod stormydd a sicrhau fod ein prosesau’n gweithio heb effeithio cymunedau lleol yn ormodol.

Mae ein sefyllfa fel perchennog tir a gwarchodwr rhai o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf y wlad yn fater pwysig iawn i ni fel cwmni. Byddwn yn parhau i atal neu isafu effaith amgylcheddol ein gweithgareddau a, ble’n bosibl, yn uchafu’r cyfleoedd i gynnal a gwella bywyd natur. Gyda 60% o’n tir yn bwysig yn nhermau cadwraeth a bioamrywiaeth y wlad gyfan, a’n rhaglen buddsoddi cyfalaf yn parhau, rydym yn benderfynol o reoli gwaith ac adnoddau’r cwmni yn gyfrifol er lles cenedlaethau’r dyfodol.

corner

Gwybodaeth bellach

Arolwg Bioamrywiaeth

Arolwg Bioamrywiaeth

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 678kb


Arolwg Amgylcheddol

Arolwg Amgylcheddol

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

File size: 679kb


Polisi Bioamrywiaeth

Clic yma i ddarllen Polisi Bioamrywiaeth Dŵr Cymru

Gofalu am ein Treftadaeth

Gofalu am ein Treftadaeth

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 1400kb