Mae mwy na hanner y troseddau ymwelwyr ffug yn y DU yn cael ei wneud gan droseddwyr yn esgus dod o gwmni dŵr - ac mae Dŵr Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i fod ar eu gwladwriaeth rhag twyllwyr sy’n cymryd mantais o bobl hen a bregus.
Mae’r cwmni a’r cyfan o ddiwydiant dŵr y DU wedi ymuno gyda’r heddlu a’r llywodraeth mewn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r broblem, ble mae troseddwyr yn twyllo’u ffordd i mewn i gartrefi pobl i ladrata.
Dengys ystadegau fod tua 35 o droseddau ymwelwyr ffug yn cael eu cyflawni pob dydd, ond credir y gallai hynny fod cyn lleied â 10% o gyfanswm nifer y troseddau sy'n digwydd mewn gwirionedd gan fod yn aml ormod o gywilydd ar y dioddefwyr i gyfaddef.
Bwriad yr ymgyrch ‘Cnoc Cnoc. Pwy sy ‘na? Holwch yn iawn cyn eu gadael i mewn, sy’n cael ei chefnogi gan y Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Water UK a Chyngor Cwsmeriaid Dŵr, yw codi ymwybyddiaeth yn genedlaethol ymysg pobl o bob oedran a helpu i rwystro’r trosedd annymunol hwn.
Meddai Suzanne Evans, Dŵr Cymru, “Mae troseddwyr dideimlad yn targedu pobl fregus ac yn aml yn lladrata’r holl arian sydd ganddyn nhw. Ond mae pethau y gallwch eu gwneud i’w rhwystro ar unwaith.
“Os ydych yn ansicr pwy yw’r person sy’n honni ei fod yn dod o Ddŵr Cymru, peidiwch â gadael iddo ddod i mewn i'ch cartref. Gall cwsmeriaid ffonio Dŵr Cymru ar 0800 281 141 i gadarnhau pwy yw’r galwr ac ni fydd wahaniaeth gan weithwyr diffuant ddisgwyl tra’ch bod yn gwneud hynny. Mae cynlluniau cyfrinair hefyd yn rhoi gwarchodaeth a heddwch meddwl pellach i gwsmeriaid - bydd unrhyw un sydd angen mynd i mewn i gartref cwsmer yn gwybod ac yn defnyddio’r cyfrinair. Rydym yn annog ein holl gwsmeriaid i fod yn wyliadwrus – ac i bobl rybuddio’r rhai y maen nhw’n teimlo allai fod yn fregus.”
Meddai Diane McCrea o Gyngor Cwsmeriaid Ddŵr Cymru, “Mae gan bobl berffaith hawl droi ymwelwyr digroeso i ffwrdd ar unrhyw adeg, yn enwedig os nad ydyn nhw’n fodlon gyda’r wybodaeth a geir ganddyn nhw. Ni fydd unrhyw gwmni dŵr byth yn mynnu cael mynd i mewn i’ch cartref.”
Cyngor ar fesurau i daclo galwyr ffug wrth glicio ar y linciau isod.
Cnoc, Cnoc. Pwy sy’na? Byddwch yn barod i ddweud ‘Na’!
Clic yma i weld ffilm fer am Alwyr Ffug
Galwyr Ffug
-
Copïwch y linc isod i’ch meddalwedd Podcast er mwyn cysylltu â’r Podcast.
www.dwrcymru.com/bogus_caller.xml
|
iTunes Galwyr Ffug
Copïwch y linc isod i’ch meddalwedd iTunes er mwyn cysylltu â’r Podcast.
www.dwrcymru.com/bogus_caller_itunes.xml
|
Galwyr Ffug (Cymraeg)
Clic i’w lwytho (os am ei gadw ar y desktop, clicio’r botwm de a “save target as”) |
|