RYDYCH YMA > Hafan > Preifatrwydd

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Preifatrwydd

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Cyflwyniad

Yn yr hysbysiad hwn, cyfeirir at Dŵr Cymru Cyfyngedig/Dŵr Cymru Welsh Water a Glas Cymru Cyfyngedig ar y cyd fel ‘y Cwmni’.

Mae’r hysbysiad cyfreithiol hwn yn gymwys i holl gynnwys y wefan hon. Wrth fynd i unrhyw ran o’r wefan, fe gymrir eich bod wedi derbyn holl amodau’r hysbysiad cyfreithiol hwn. Gallwn newid neu addasu’r hysbysiad cyfreithiol hwn ar unrhyw amser a bydd y fath newidiadau’n effeithiol yn syth ar ôl postio’r hysbysiad diwygiedig ar y wefan hon.

Ymwrthodiad

Er bydd y Cwmni yn ceisio darparu gwybodaeth gywir ar y wefan, nid yw’r Cwmni yn gwarantu cywirdeb a chyflawnrwydd y deunydd ar y wefan hon. Gall y Cwmni newid y deunydd ar y wefan ar unrhyw amser heb rybudd. Gall y deunydd ar y wefan fod yn hen ac nid yw’r Cwmni yn gwneud unrhyw ymrwymiad i’w ddiweddaru.

Linciau i wefannau eraill

Bydd rhai linciau ar y wefan yn cysylltu â gwefannau trydydd partïon nad oes unrhyw reolaeth gan y Cwmni drostynt. Nid yw’r Cwmni yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb neu unrhyw agwedd arall o wybodaeth ar y gwefannau eraill hynny.

Hawlfraint

Oni nodir fel arall, y Cwmni neu ei drwyddedwyr sy’n berchen yr hawlfraint a hawliau eiddo deallus arall ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (yn cynnwys heb gyfyngiad y lluniau a delweddau graffig). Cyfyngir y copïo i lwytho i ddisg cyfrifiadur at ddefnydd personol yn unig. Nid oes hawl atgynhyrchu neu storio cynnwys y wefan hon ar unrhyw wefan arall, neu ei gynnwys ar unrhyw system neu wasanaeth adfer electronig cyhoeddus neu breifat neu unrhyw gyhoeddiad neu waith arall heb ganiatâd ysgrifenedig y Cwmni ymlaen llaw. Cedwir pob hawl na chyflwynir yn glir o fewn yr amodau hyn.

Mae enw a logo’r Cwmni yn nodau masnach y Cwmni. Nid oes hawl gennych i ddefnyddio’r nodau masnach hyn heb ganiatâd ysgrifenedig clir y Cwmni.

Diogelu data

Cofrestrwyd y Cwmni o dan amodau Deddf Diogelu Data 1998. Byddwn yn dilyn holl amodau’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gan ddefnyddwyr y wefan hon. Fodd bynnag, oni nodir fel arall ni amgryptir gwybodaeth a drosglwyddir i’r Cwmni drwy’r wefan a gellid ei rhyng-gipio gan drydydd partïon neu ei throsglwyddo’n electronig i bartïon eraill heblaw am yr endid y cyfeiriwyd ato. Byddwch yn cyflwyno unrhyw fanylion o’r fath ar eich risg eich hun ac felly dylech eu hystyried yn ofalus cyn eu trosglwyddo.

Awdurdodaeth

Rheolir a dehonglir amodau’r hysbysiad cyfreithiol hwn gan gyfraith Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau’n gysylltiedig â’r hysbysiad cyfreithiol yma’n destun awdurdodaeth anghynhwysol llysoedd Cymru a Lloegr.

corner

Gwybodaeth bellach