Cyfle
Mae’r swydd yn golygu ymateb i bwysau rheoleiddwyr a phwysau economaidd, technegol a gwleidyddol cymhleth i sicrhau bod DCWW yn datblygu ac yn cyflenwi polisïau cost-effeithiol ym maes rheoli data am y galw am ddŵr. Mae llawer o ddiddordeb gwleidyddol mewn gweithgareddau galw am ddŵr ac mae’n bwysig bod gan DCWW ddigon o wybodaeth a chyngor i wneud y penderfyniadau busnes strategol a thactegol cywir yn y maes.
Mae’n hanfodol paratoi data dibynadwy ar reoli’r galw am ddŵr a thrafod gyda’n rheoleiddwyr fel eu bod yn derbyn ein methodolegau technegol er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau’n rheoleiddwyr ar ollyngiadau mewn ffordd gost-effeithiol. Mae hynny hefyd yn elfen hanfodol yn y gwaith o baratoi rhagolygon tariffau ac incwm fel y gellir cyflenwi cynllun busnes DCWW mewn ffordd effeithiol.
Pwrpas y Swydd
Bydd y sawl a benodir yn gyfrifol am reoli’r gwaith o baratoi data o safon uchel am y galw am ddŵr gan gwsmeriaid a rhagolygon cysylltiedig. Mae hyn yn bwysig er mwyn bodloni gofynion y rheoleiddwyr o ran paratoi adroddiadau am wasanaethau dŵr a charthffosiaeth DCWW ac er mwyn cyfrannu at y Cynllun Rheoli Adnoddau, y gwaith o bennu tariffau a’r rhagolygon incwm. Bydd y sawl a benodir yn cynnig cyngor a chymorth i’r Rheolwr Galw am Ddŵr ar ddatblygiad strategol gwybodaeth am wahanol elfennau’r galw fel y gellir sicrhau strategaeth gost-effeithiol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â galw am ddŵr fel y gellir cyrraedd targedau’r Cynllun Busnes.
Prif gyfrifoldebau
Bydd y sawl a benodir yn cynnig cyngor a chymorth technegol i’r Rheolwr Galw am Ddŵr ac felly bydd y ddau’n ymwneud â gwybodaeth am y galw am ddŵr. Mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn cyflwyno darlun cywir a dibynadwy o’r galw ar hyn o bryd a’r rhagolygon. Dyma rai o’r prif gyfrifoldebau:
- Cynghori ar ddatblygiad strategaethau DCWW ar y data am y galw am ddŵr gan dalu sylw i’r newidiadau yn y gofynion rheoleiddio a’r gofynion amgylcheddol.
- Datblygu modelau a threfniadau dibynadwy ar gyfer rhagweld y galw am ddŵr dros gyfnod o 25 mlynedd i fod yn sail ar gyfer cynllunio adnoddau dŵr.
- Rheoli ansawdd, cysondeb a chywirdeb holl ddata’r cwmni am y galw am ddŵr yn cynnwys cyfrifiadau eiddo a dadansoddiadau o swm y dŵr sy’n mynd trwy fesuryddion, a sicrhau ei fod ar gael. Paratoi rhagolygon rhanbarthol dibynadwy.
- Didoli’r wybodaeth am falansau’r parthau cyflenwi dŵr, cynllunio ar gyfer gollyngiadau a chynllunio incwm a sicrhau bod y wybodaeth yn gywir.
- Cynnal archwiliad o argaeledd ac integriti’r data, y dulliau dadansoddi a’r adroddiadau a defnyddio hynny i ganfod unrhyw broblemau a phenderfynu ar gamau i’w cymryd i sicrhau bod DCWW yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio a bod ganddo’r wybodaeth angenrheidiol i reoli gweithgareddau’n ymwneud â’r galw am ddŵr mewn ffordd effeithiol.
- Cymharu gwaith DCWW yn monitro’r galw am ddŵr, ei ddulliau dadansoddi, ei systemau a’i gronfeydd data â rhai a ddefnyddir gan sefydliadau eraill yn y DU a thramor gan ystyried pa mor berthnasol ac effeithiol ydynt ar gyfer DCWW a pharatoi cynigion ar arferion gorau a dulliau newydd o fonitro a rhagweld y galw am ddŵr.
- Rheoli’r rhyngwyneb allanol gyda rhanddeiliaid, yn cynnwys Ofwat ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ym maes monitro a rhagweld y galw am ddŵr, er mwyn sicrhau y derbynnir rhagolygon a dulliau gweithredu DCWW, gan fodloni gofynion y rheoleiddwyr yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.
- Gweithredu fel arbenigwr technegol DCWW ar ddata am y galw am ddŵr a chynghori adrannau eraill DCWW ar faterion technegol yn ymwneud â data am y galw am ddŵr, yn cynnwys mesuryddion a thariffau cwsmeriaid, trwy ddulliau cyfathrebu mewnol a gweithgorau yn ôl yr angen.
- Cynrychioli a hybu buddiannau DCWW ar weithgorau perthnasol yn y diwydiant ac yn genedlaethol.
Profiad a chymwysterau
Gradd mewn pwnc gwyddonol neu brofiad perthnasol cyfatebol.
Yn ddelfrydol, dylai fod gennych brofiad o fod yn gyfrifol am baratoi dadansoddiadau o’r galw am y cyfleustodau, gwneud gwaith rheoli ansawdd data a chynnal trafodaethau technegol gyda rheoleiddwyr y diwydiant, yn y sector dŵr os oes modd.
Byddai’n ddymunol pe bai gennych brofiad o ddatblygu cynlluniau strategol yn llwyddiannus ac o archwilio gweithdrefnau ansawdd data a methodolegau sy’n berthnasol i reoli galw.
Gan mai chi fydd arbenigwr DCWW ym maes data ar y galw am ddŵr a rhagweld y galw, mae sgiliau dadansoddi ystadegau, datblygu taenlenni cymhleth a chadw cronfeydd data yn un o’r gofynion allweddol.
Mae’n bwysig eich bod yn dda am ymwneud â phobl eraill. Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gallu cyfathrebu’n dda ar lafar ac ar bapur â rheoleiddwyr, ymgynghorwyr a staff mewn disgyblaethau eraill fel y gall gyflwyno materion technegol a masnachol yn effeithiol.
Mae’n rhaid bod â’r gallu i feddwl yn strategol, i ddeall materion technegol ac economaidd cymhleth, ac i feincnodi dulliau a ddatblygir gan sefydliadau eraill.
Cysylltiadau allweddol
Mewnol
- Cefnogi, cynghori a rhoi gwybodaeth i’r Rheolwr Galw am Ddŵr am faterion sy’n ymwneud â gwybodaeth am y galw am ddŵr.
- Cynghori a chefnogi adrannau eraill DCWW ar unrhyw faterion technegol neu faterion busnes sy’n ymwneud â data am y galw am ddŵr a rhagolygon cysylltiedig. Bydd y rhain yn cynnwys y timau sy’n delio â chofnodion strategol am ollyngiadau, adnoddau dŵr, incwm a thariffau ac asedau.
Allanol
- Trafod gyda phartneriaid strategol DCWW ym maes gollyngiadau a staff technegol UUOS i sicrhau bod eu gwaith yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol am y galw am ddŵr er mwyn bodloni gofynion gweithredol rheoleiddwyr DCWW.
- Datblygu cysylltiadau â chyfleustodau eraill er mwyn meincnodi gwybodaeth am y galw am ddŵr er budd pawb.
- Meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda staff Ofwat ac Asiantaeth yr Amgylchedd a’u hardystwyr technegol, er mwyn gwella’r ddelwedd sydd ganddynt o waith DCWW yn monitro ac yn rhagweld y galw am ddŵr, gan ganfod cyfleoedd i sicrhau bod DCWW yn llwyddo’n well i gyrraedd targedau’r rheoleiddwyr.
- Cynrychioli buddiannau DCWW o ran gwybodaeth am y galw am ddŵr ar weithgorau’r diwydiant a gweithgorau cenedlaethol.
Cymwyseddau
Ceir rhagor o wybodaeth gan Gordon Hall
Os hoffech ymgeisio, anfonwch eich CV llawn trwy’r e-bost i recruitment@dwrcymru.com erbyn dydd Gwener 21 Medi 2007.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gyflogwr Cyfle Cyfartal |