Pwrpas y Swydd
Helpu a chefnogi Rheolwr Strategaeth y Rhwydwaith Carthffosiaeth i greu strategaethau a pholisïau carthffosiaeth ar gyfer y Cwmni, helpu i lywio gwaith ymchwil, a rhannu a gweithredu’r arferion gorau sy’n deillio o’r gwaith hwnnw. Mae’n bosib y daw’r cyfle i olynu Rheolwr Strategaeth presennol y Rhwydwaith Carthffosiaeth yn y dyfodol.
Prif gyfrifoldebau
- Cefnogi Rheolwr Strategaeth y Rhwydwaith Carthffosiaeth wrth wneud gwaith ar bolisïau ac wrth reoli gwaith yn cynnwys S101A (Deddf y Diwydiant Dŵr 1991); SUDS; Trosglwyddo Carthffosydd Preifat, a chynlluniau strategol i wella perfformiad.
- Rheoli, cynnal a gwella’r Llawylyfr Gweithdrefnau Carthffosiaeth a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu, gan gynnwys y newidiadau diweddaraf i bolisïau yn ôl yr angen.
- Penderfynu ym mha feysydd y mae angen gwneud gwaith ymchwil, cynrychioli’r Cwmni ar Grwpiau Llywio priodol mewn meysydd ymchwil a dylanwadu ar y gwaith er mwyn bodloni anghenion y Cwmni.
- Cynnig cyngor arbenigol i bartneriaid ar faterion cyfreithiol sy’n ymwneud â charthffosiaeth ac ar bolisïau’r Cwmni, yn ôl yr angen.
- Cynnal gwahanol brosiectau gan ddefnyddio profiad arbenigol i ddatrys problemau anarferol ym maes rheoli asedau carthffosiaeth.
- Drafftio Canllawiau Polisi ar gyfer yr AMA, a gwybodaeth gysylltiedig i gwsmeriaid.
- Adolygu trefniadau i reoli materion yn ymwneud â ffiniau gydag ymgymerwyr carthffosiaeth sy’n terfynu ar ardal y Cwmni, a gwneud trefniadau newydd gydag eraill.
- Trafod materion asesu adran 101 gydag ymgeiswyr ac eraill.
- Ymdrin ag ymholiadau ad-hoc am garthffosiaeth oddi wrth gwsmeriaid ar faterion sydd y tu hwnt i’r gweithdrefnau neu’r polisïau presennol.
Profiad a chymwysterau
- Gradd neu HNC mewn peirianneg sifil neu bwnc tebyg a gorau oll os ydych yn gweithio tuag at ennill statws Siartredig.
- Profiad o gynnal, rheoli, dylunio neu adeiladu systemau carthffosiaeth.
- Dealltwriaeth sylfaenol dda o’r gyfraith sy’n ymwneud â charthffosiaeth a draenio.
- Dealltwriaeth dda o ofynion Iechyd a Diogelwch fel ‘Cleient’, yn cynnwys Rheoliadau CDM.
- Yr awydd a’r hyder i herio prosesau presennol.
- Sgiliau rhagorol ym maes gofalu am gwsmeriaid.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Cysylltiadau allweddol
Mewnol
- Rheolwyr Cyflawni yr Ardal
- Rheolwr Perfformiad Dŵr Gwastraff
- Yr holl bartneriaid gweithredu a chyflawni ar lefel Rheolwyr
- Y Prif Gyfreithiwr
Allanol
- Cwsmeriaid
- Rheolwyr Asedau Carthffosiaeth mewn cwmnïau eraill sy’n rhan o Water UK
- Sefydliadau ymchwil
- Uwch swyddogion yn Asiantaeth yr Amgylchedd
- Ymgynghorwyr sy’n gwneud gwaith cysylltiedig
- Swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol
- ASau, ACau a Chynghorwyr
- Swyddogion Awdurdodau Lleol
Cymwyseddau
Ceir rhagor o wybodaeth gan Bob Evans.
Os hoffech ymgeisio, anfonwch eich CV llawn trwy’r e-bost at recruitment@dwrcymru.com erbyn dydd Gwener 21 Medi 2007.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gyflogwr Cyfle Cyfartal |