Vacancies

DCWW Logo
Teitl y Swydd: Rheolwr Perfformiad Busnes Newydd
Lleoliad: Nelson
Cyflog: Band 4 £38,233 - £43,051
Adran: Cyflenwi Cynlluniau Cyfalaf (Tîm Busnes Newydd)
Adrodd wrth: Rheolwr Busnes Newydd

Pwrpas y Swydd

Rheoli'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau busnes newydd yn effeithiol ac effeithlon trwy ein partneriaid, gyda chyfrifoldeb am yr agweddau perfformiadol a masnachol.

 

Adnabod ac annog arferion gorau a gwelliannau i’r gwasanaeth er budd cwsmeriaid busnes newydd a rhanddeiliaid.

 

Monitro ac adolygu cyllideb dwf y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, yn cynnwys cynnig cymorth pan fydd cyfleoedd masnachol yn codi o ddatblygiadau newydd.

 

Prif Gyfrifoldebau

  • Cefnogi’r Rheolwr Busnes Newydd i gyflenwi gwasnaethau busnes newydd yn effeithiol ac effeithlon trwy ein partneriaid
  • Monitro perfformiad partneriaid busnes newydd, o ran cyllidebau a dangosyddion perfformiad.
  • Dadansoddi meincnodau a thueddiadau
  • Helpu i reoli ac adolygu cyllideb dwf y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.
  • Cefnogi’r Rheolwr Busnes Newydd mewn trafodaethau masnachol ar gyfer meysydd allweddol sydd i’w hadfywio neu eu datblygu o'r newydd.
  • Ymdrechu i chwilio am grantiau ac incwm gydag aelodau o dimau eraill a’n partneriaid.
  • Rheoli cysylltiadau ardderchog â’r holl gyrff perthnasol.
  • Cydweithio â'r Rheolwr Cynllunio a’r Rheolwr Technegol i gyflenwi gwasanaethau busnes newydd

Y Sgiliau / Profiad Angenrheidiol

  • Dealltwriaeth a phrofiad rhesymol o weithgareddau busnes newydd ym meysydd dŵr glân a dŵr gwastraff a’r diwydiant datblygu.
  • Gwybodaeth am fframweithiau deddfwriaethol, yn ymwneud â’r diwydiant dŵr a/ neu cynllunio gwlad a thref os oes modd
  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol ardderchog
  • Y gallu i weithio mewn tîm ac i arwain yn effeithiol
  • Sgiliau hwyluso, datrys problemau a gwneud penderfyniadau
  • O leiaf HNC / gradd, a chymhwyster proffesiynol perthnasol hefyd os oes modd. 

Cymwyseddau

MEDDWL BEIRNIADOL
Y gallu i grynhoi, deall, dadansoddi a dehongli gwybodaeth a syniadau, llafar neu rifyddol, am bobl neu sefyllfaoedd, yn gyflym.

 

SGILIAU DYLANWADU
Y gallu i gyflwyno syniadau neu ffeithiau yn glir ac argyhoeddiadol, ar lafar neu ar bapur; er mwyn darbwyllo pobl eraill; a sicrhau cytundeb ar gynigion neu safbwyntiau a derbyniad iddynt.

 

RHEOLI ADNODDAU/PROSIECTAU
Y gallu i benderfynu ar y llwybr gorau i’w ddilyn, i chi’ch hunan neu i eraill, a rheoli pob math o adnoddau (yn cynnwys pobl, cyllidebau, contractau, systemau a phrosesau) yn effeithiol, er mwyn cyflawni’r amcan.

 

GWAITH TÎM
Credu yng ngwerth synergedd; y brwdfrydedd a’r gallu i gydweithio ag eraill i gyflawni nod sy’n gyffredin rhyngddynt yn y ffordd fwyafa effeithiol.

 

YMWYBYDDIAETH FASNACHOL
Dealltwriaeth o economeg busnes. Dealltwriaeth o fanteision ac agweddau ymarferol busnes, o safbwynt y sefydliad a’r cwsmer.

 

YSGOGIAD I LWYDDO
Digon o frwdfrydedd ac egni i sicrhau canlyniadau gwych ac i fynd ati’n barhaus i chwilio am ffyrdd o wella cysylltiadau, canlyniadau a phrosesau.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth a’r cymwyseddau, cysylltwch â Sian Grandin.

 

Os hoffech ymgeisio am y swydd, anfonwch eich CV llawn trwy’r e-bost i recruitment@dwrcymru.com erbyn dydd Gwener 21 Medi 2007

 

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gyflogwr Cyfle Cyfartal