RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Dŵr Cymru Welsh Water > Ffeithiau allweddol

Ffeithiau allweddol

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Ffeithiau allweddol

Dŵr Cymru yw’r cwmni rheoledig sy’n darparu gwasanaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth ar gyfer dros 3 miliwn person yn byw a gweithio yng Nghymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr. Rydym yn gwasanaethu 1.2 miliwn cwsmer preswyl a dros 110,000 cwsmer busnes, gan ein gwneud yn chweched (o ran maint) o blith y 23 cwmni dŵr rheoledig yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn cynnal 81 cronfa ddŵr a 105 gwaith trin dŵr, ac yn cyflenwi 900 miliwn litr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd. Dosberthir y dŵr trwy rwydwaith pibellau 27,000 cilomedr, yn cynnwys including 532 gorsaf bwmpio a 715 cronfa wasanaeth. Yn ogystal byddwn yn casglu dŵr gwastraff (yn cynnwys draenio dŵr arwyneb a ffyrdd) trwy rwydwaith carthffosydd o 19,000 cilomedr, yn cynnwys 1,700 gorsaf bwmpio a 3,300 gorlif carthion cyfunol. Mae rhwydwaith o 832 gwaith trin dŵr gwastraff ger afonydd ac ar hyd yr arfordir yn trin yr holl ddŵr wastraff.

Ein prif gyfrifoldeb yw gweithredu, cynnal a diweddaru’r rhwydwaith asedau enfawr   yma er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr diogel a dibynadwy, a delio’n effeithiol â dŵr gwastraff er gwarchod yr amgylchedd.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Dŵr Cymru Regulatory Accounts 2007

Click here to view an Acrobat PDF version of this report.

File size: 420kb

Welsh Language Scheme

Cynllun Cymraeg

Mae Dwr Cymru yn falch o drafod â chwsmeriaid yn Gymraeg a Saesneg.

Clic yma am fanylion pellach .