Yn debyg i’n gwasanaethau dŵr yfed, mae ein gwaith ym maes carthffosiaeth yn destun prosesau monitro a rheoleiddio caeth. Mae’n bwysig trin carthion a dŵr gwastraff yn effeithiol er diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.
Mae arfordir Cymru yn un o’r hiraf sy’n gyfrifoldeb un o’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn y sector. Mae cynnal dŵr o safon uchel ar yr arfodir yn bwysig iawn i ddiwydiant twristiaeth y wlad am ei fod yn cyflogi oddeutu 100,000 o bobl ac yn gwneud cyfraniad pwysig ac yr economi. Ers 1995 rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn ar uwchraddio neu adeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd drwy’r wlad, gan helpu i ennill baneri las Ewropeaidd am safon ein dŵr nofio.
Carthffosydd – cyfrifoldeb pwy?
Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am y pibellau carthffosydd o’r pwynt ble maent yn ymuno â’r system gyhoeddus. Nid yw rhai adeiladau’n cysylltu’n uniongyrchol â charthffosydd cyhoeddus. Gwasanaethir nhw gan rwydwaith carthffosydd preifat sydd, yn y mwyafrif o achosion, yn cysylltu ar ryw bwynt â’r system gyhoeddus.
Yn gyffredinol, ni fydd carthffosydd preifat o safon gymwys i’w mabwysiadu gan y rhwydwaith cyhoeddus. O ganlyniad, perchnogion yr adeiladau cysylltiedig sy’n gyfrifol am y gwaith cynnal a thrwsio arnynt. Dros y blynyddoedd diwethaf, cododd nifer o broblemau’n gysylltiedig â charthffosydd preifat. Er enghraifft, y ffaith fod llawer o berchnogion ddim yn ymwybodol eu bod yn defnyddio carthfosydd preifat tan i broblem godi sy’n galw am waith trwsio. Gall hynny achosi pryder oherwydd mae’r gwaith trwsio yn gallu costio symiau mawr.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydweithio â DEFRA a chyrff allweddol eraill i geisio datrys y broblem hon. Yn 2002 cytunwyd protocol er mwyn ceisio stopio’r broblem rhag gwaethygu wrth fynnu bod pob adeiladwr tai yn gosod carthffosydd o safon i’w mabwysiadu fel rhan o’r system gyhoeddus. O ran ateb hir dymor, mae’r Llywodraeth wedi ymgynghori ar wahanol syniadau, yn cynnwys mabwysiadu carthffosydd preifat gan weithredwyr carthffosydd. Fe gyhoeddir y penderfyniad maes o law.