Mae Dŵr Cymru’n rhedeg cronfeydd dŵr ledled Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu bodloni’r galw gan gwsmeriaid ac, ar yr un pryd, barchu’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn monitro lefelau ein cronfeydd dŵr yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu yn y ffordd orau bosibl.
Bob wythnos, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf ar sefyllfa’r dŵr ym mhrif gronfeydd cyflenwi dŵr Cymru. Rydym yn anfon yr adroddiad hwn at Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd. Yn ogystal â’r lefelau storio cyfredol a’r glawiad misol cyfartalog, mae’r adroddiad yn dangos sut y mae’r lefelau cyfredol yn cymharu â’r un adeg y llynedd ac â 1995, sef y cyfnod diweddaraf o sychder, a effeithiodd ar sawl rhan o Brydain. I weld copi o’r adroddiad diweddaraf clic yma.