RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Adnoddau dwr

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Adnoddau dŵr – Cynllun adnoddau dŵr

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058
Adnoddau dwr

Mae Dŵr Cymru’n credu’n gryf mewn cynllunio strategol hirdymor ar gyfer adnoddau dŵr yng Nghymru er mwyn sicrhau y bydd digon o ddŵr i ddiwallu anghenion cyfnewidiol ei gwsmeriaid.  Felly, mae Dŵr Cymru a phob cwmni dŵr arall ym Mhrydain yn paratoi ‘Cynllun Adnoddau Dŵr’.

Er mwyn sicrhau y gallwn gynnal y cyflenwad dŵr i’r dyfodol, mae’n rhaid i Ddŵr Cymru ystyried pob ffactor a allai effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael neu’r galw am y cyflenwad.  Mae hyn yn cynnwys newid yn y boblogaeth, newid hinsawdd, newid yn y ddeddfwriaeth a newidiadau o ran faint o ddŵr a ddefnyddiwn.

Rhannwyd ein hardal cyflenwi dŵr yn 24 parth adnoddau dŵr.  Parth adnoddau dŵr yw’r parth mwyaf lle gall yr holl gwsmeriaid gael cyflenwad sydd yr un mor sicr h.y. gellir rhannu dŵr ar draws y parth. Yn 2004, paratowyd Cynllun Adnoddau Dŵr gan Dŵr Cymru ar gyfer pob un o’r parthau hyn a strategaeth 25 mlynedd i ystyried y cydbwysedd rhwng y cyflenwad sydd ar gael a’r galw amdano.

Yn 2004, roedd y Cynllun yn nodi wyth parth lle’r oedd angen buddsoddi i sicrhau y gellid cynnal cyflenwad fyddai’n rhoi’r un lefel gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid. Cliciwch yma i weld map yn dangos y mannau ledled Cymru lle bwriedir buddsoddi.

Caiff y Cynllun Adnoddau Dŵr ei adolygu yn ystod y flwyddyn nesaaf a bydd Cynllun Drafft Adnoddau Dŵr ar gael i ymgynghori arno o fis Hydref 2007 ymlaen.

Sefyllfa gyfredol y dŵr

Cynllun adnoddau dŵr

Cynllun sychder

Defnyddio dŵr yn effeithlon

corner

Gwybodaeth bellach

Adroddiad sefyllfa adnoddau dŵr

Adroddiad sefyllfa adnoddau dŵr

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

File size: 81kb