Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr |
![]() |
|
Cyfarwyddwyd Dŵr Cymru i gyhoeddi’r Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr hwn (y Cynllun) ar 15/01/09 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r drafft Gynllun yn gyson â’r un a gyflwynwyd i Lywodraeth y Cynulliad, Ofwat (Office of Water Services), DEFRA (Adran Bwyd a Materion Gwledig) ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru ym Mawrth 2008. Un o amodau ein Cyfarwyddyd oedd cyhoeddi Cynllun Mawrth 2008.
Mae pennod 5 o’r Cynllun yn nodi ein dealltwriaeth o dan yr Adolygiad Cydsyniadau Cynefinoedd ar y pryd. Ers hynny mae Dŵr Cymru wedi parhau i gydweithio’n agos ag Asiantaeth Amgylchedd Cymru er mwyn deall oblygiadau’r broses ‘Adolygiad Cydsyniadau’ ar ein trwyddedau tynnu dŵr ar draws y wlad. Ers cyflwyno’r cynllun drafft ym Mawrth 2008, rydym wedi derbyn mwy o ddata o ymchwiliadau’r Asiantaeth ac ers hynny mae’r Asiantaeth wedi darparu cynigion i newid ein trwyddedau tynnu dŵr. Bydd y cynigion yn cynrychioli oblygiadau sylweddol i’n rheolaeth o adnoddau dŵr, ar dair afon yn benodol: afon Gwy (ac isafonydd), yr Wysg a’r Cleddau.
Mae’n bosibl bydd y newidiadau arfaethedig i drwyddedau tynnu dŵr o afonydd Gwy, yr Wysg a’r Cleddau yn effeithio’r cydbwysedd cyflenwad a galw mewn dim ond tri o’r 24 parth dŵr a nodir yn y Cynllun hwn: sef System Defnydd Cysylltiol y De Ddwyrain (SEWCUS), Pilleth (oherwydd y cynigion ar Afon Lugg, isafon o’r Wy) a sir Benfro. Nodir newidiadau arfaethedig Asiantaeth Amgylchedd Cymru o fewn y ‘Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol’. Yn ogystal, rydym wedi parhau i ddatblygu cydbwysedd cyflenwad a galw yn unol â’r adran ‘Gwaith pellach‘. Byddwn yn ymgorffori’r astudiaethau hyn, ynghyd ag unrhyw ymateb i’r cynllun drafft, yn ein Cynllun terfynol.
Mae Dŵr Cymru yn awyddus i ymgynghori â chwsmeriaid a rhanddeiliaid fel rhan o’r broses o lunio’r Cynllun terfynol. Er bod y posibilrwydd o newidiadau o fewn y tri pharth yma, bydd dal angen buddsoddi i ddiogelu adnoddau a chyflenwadau dŵr ar draws y wlad. Felly, dyma ddrafft Cynllun Cymru, na fydd y rhan helaeth ohono’n destun newidiadau’n dseillio o gynigion Asiantaeth Amgylchedd Cymru.
Ein bwriad yw cynnwys effeithiau’r gostyngiadau cynaladwyedd o fewn y Cynllun terfynol, ynghyd ag ystyriaeth o unrhyw ymateb a dderbynnir fel rhan o’r broses ymgynghori. Mynegol yw’r opsiynau hyn o bryd. Byddwn yn parhau i ddatblygu ac addasu’r ymchwiliadau hyn wrth gydweithio â Llywodraeth y Cynulliad, Ofwat ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru er mwyn sicrhau buddsoddiad addas er lles amgylchedd a chwsmeriaid Cymru.
Clic yma i lwytho i lawr ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr
|