Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (CRhAD) drafft er mwyn ymgynghori arno. Roedd yn amlinellu ein strategaeth adnoddau dŵr 25 mlynedd ar gyfer rheoli adnoddau dŵr ledled ein hardal gyflenwi a chynnal y cydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw. Rydym wedi ymgynghori'n eang ar y CRhAD a anfonwyd yn uniongyrchol at fwy na 70 o gyrff. Fe gysylltwyd â'n holl gwsmeriaid wrth anfon y bil blynyddol a threfnwyd bod modd ymateb i'r ymgynghoriad ar ein gwefan. Yn ogystal, er mwyn helpu pobl oedd heb gysylltiad â'r rhyngrwyd, gofynnwyd i bob gwasanaeth llyfrgell yn ein hardal gyflenwi ddarparu'r gwasanaeth hwn. Roedd y cyfnod ymgynghori'n para 16 wythnos ac fe gawsom gyfanswm o 11 ymateb gan reoleiddwyr y diwydiant, cybnghorau sir a chyrff cadwraeth.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Datganiad Ymateb i'r sylwadau hynny. Mae'r Datganiad Ymateb yn amlinellu prif feysydd y sylwadau a gafwyd ar y CRhAD drafft, mae'n nodi sut y byddwn yn newid y CRhAD ar sail y sylwadau a gawsom neu, os na fyddwn yn ei newid, mae'n nodi pam. Yn yr atodiadau, rydym wedi cynnwys tabl manwl yn rhestru'r holl sylwadau a gawsom a'n hymateb i bob un.
Yn ogystal â'r CRhAD, ar yr un diwrnod, fe gyhoeddwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC) i ymgynghori arnynt. Cafwyd cyfnod ymgynghori o 6 wythnos a chawsom dri ymateb ar yr ARC a 5 ar yr AAS. Cafodd y sylwadau a ddaeth i law ar yr AAS a'r ARC eu cynnwys yn y Datganiad Ymateb. Yn ogystal â pharatoi'r Datganiad, rydym wedi ysgrifennu at bob ymatebydd unigol ar y CRhAD, yr AAS a'r ARC, ac rydym wedi ymateb yn fanwl i bob sylw a wnaed.
Ers i ni gyhoeddi'r CRhAD, mae Dŵr Cymru wedi cael gostyngiadau cynaliadwyedd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Bydd y rhain yn cael effaith fawr ar ein trwyddedau tynnu dŵr, ar afonydd Gwy, Wysg, Llugwy a Chleddau ar hyn o bryd, a byddant yn golygu newid mawr i gydbwysedd y cyflenwad a'r galw yn eu parthau cyflenwi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod unrhyw Gynllun Drafft diwygiedig yn adlewyrchu'r newidiadau hyn ac yn rhoi cyfle i'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid gynnig sylwadau. Ym mis Mehefin 2009, dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wrth Dŵr Cymru eu bod yn bwriadu cynnal asesiad pellach o'r gostyngiadau cynaliadwyedd hyn yn dilyn adolygiad ansawdd mewnol. Mae'n rhaid i ni aros am ganlyniad y broses hon cyn y gallwn gyhoeddi unrhyw newidiadau i'r CRhAD a disgwyl am Gyfarwyddyd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â'n camau nesaf.