Yn ôl y Rheoliadau Cynefinoedd rhaid i bob awdurdod cymwys ddilyn gofynion y Gyfarwyddeb Gynefinoedd. Mae dyletswydd statudol ar gwmnïau dŵr i baratoi Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (Cynllun), felly dyma’r cyrff cymwys i wneud asesiad rheoliadau cynefinoedd. Nid yw’r gofynion i wneud asesiad o gynlluniau adnoddau dŵr yn gwbl glir, ond mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi awgrymu i Dŵr Cymru ei fod yn ystyried bydd angen asesiad rheoliadau cynefinoedd o’r drafft Gynllun.
Bydd yr asesiad hwnnw’n cynnwys asesiad rheoli cynefinoedd o’r drafft Gynllun, gan ystyried ar lefel strategol yr ‘atebion dewisol’ ar gyfer y parthau adnoddau dŵr y rhagwelir bydd yn wynebu diffyg. Hynny yw, y canlyniadau/opsiynau penodol fydd yn deillio o weithredu’r drafft Gynllun a’r rhagdybiaethau ac effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd y parthau adnoddau dŵr (heb ddiffyg) sy’n weddill.
Y Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd broses ymgynghori
Bydd Dŵr Cymru yn croesawu eich sylwadau ar yr Asesiad drafft.
Rhaid anfon sylwadau at:
Gail Davies
Pennaeth Adnoddau Dŵr
Dŵr Cymru Welsh Water
Heol Pentwyn
Nelson
Treharris
CF46 6LY