RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau adnoddau dŵr - Clic yma i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Mae'r ymgynghoriaeth nawr ar gau

Mae Dŵr Cymru wedi dewis cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol fel rhan o broses ymgynghori’r Cynllun, er sicrhau yr ystyrir yr holl faterion amgylcheddol wrth ddiweddaru’r Cynllun drafft.

Dylanwadwyd ar yr opsiynau gan yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a luniwyd ochr yn ochr â’r Cynllun drafft

Asesiad Amgylcheddol Strategol

Nod yr Asesiad yw “diogelu’r amgylchedd a chyfrannu at integreiddio ystyriaethau amgylcheddol wrth baratoi cynlluniau a rhaglenni, gan hyrwyddo datblygiad cynaladwy” (Cyfarwydddeb SEA)

Trefnwyd yr Asesiad ar gyfer y Cynllun drafft dros y camau isod:

  • Cam A – Gosod cyd-destun ac amcanion, sefydlu’r llinell waelod a phennu’r sgôp
  • Cam B – Datblygu ac addasu opsiynau amgen ac asesu’r effeithiau
  • Cam C – Paratoi’r adroddiad amgylcheddol
  • Cam D – Ymgynghori ar y cynllun drafft a’r adroddiad amgylcheddol

a

  • Cam E – Monitro effeithiau sylweddol gweithredu’r cynllun ar yr amgylchedd

Yr adroddiad amgylcheddol yw elfen allweddol y broses. Mae’n manylu’r broses ar gyfer y Cynllun drafft ac yn cyflwyno gwybodaeth am effeithiau’r Cynllun. Paratowyd yr adroddiad yn unol â chanllawiau’r Deyrnas Unedig ac Ewrop. Gellir llwytho’r dogfennau o’r linciau isod.

WRMP SEA (crynodeb nid-technegol)

WRMP SEA (cynllun amgylcheddol llawn a'r atodiadau)

Cynllun drafft (WRMP)

 

Y broses ymgynghori

Bydd Dŵr Cymru yn croesawu eich sylwadau ar yr Asesiad drafft.

wahoddir sylwadau ar gynnwys yr adroddiad amgylcheddol, yn benodol ar yr isod:

  • Cwestiwn 1 – ydych yn cytuno â chasgliadau’r asesiad ar amryw elfennau’r Cynllun drafft?
  • Cwestiwn 2 – fframwaith arfaethedig i fonitro effeithiau opsiynau’r Cynllun drafft ar yr amgylchedd yn addas?

Rhaid anfon sylwadau at:

Gail Davies
Pennaeth Adnoddau Dŵr
Dŵr Cymru Welsh Water
Heol Pentwyn
Nelson
Treharris
CF46 6LY

Neu ebostl: water.resources@dwrcymru.com

 

Dyma’rcamau ymgynghori

1

Cyhoeddi Asesiad Amgylcheddol WRMP

15 Ionawr 09

2

Cyfnod ymgynghori

5 wythnos

3

Derbyn sylwadau yn Dŵr Cymru ac asesu’r Cynllun yn unol â hynny

19 Chwefror 09

 

Yn y rhan hon:

Sefyllfa gyfredol y dŵr

Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr

Cynllun sychder

Defnyddio dŵr yn effeithlon

 

corner

Gwybodaeth bellach

SEA (asesiad nid–technegol Cymraeg)

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 346kb

WRMP SEA

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 9441kb

WRMP SEA - Atodiadau

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffiel: 7854kb

Cynllun drafft WRMP

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffiel: 45611kb