Mae adnoddau dŵr rhanbarth Dŵr Cymru yn gymharol gryf. Er mwyn cynnal cyflenwadau cyhoeddus, byddwn yn tynnu dim ond tua 3% o’r glawiad effeithiol, gyda 96% yn dod o afonydd sy’n derbyn dŵr gan ein cronfeydd cadw. Tynnir y dŵr ar sail trwyddedau gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru, sy’n cynnwys darpariaeth i gynnal llif y dŵr adeg cyfnodau sych. Byddwn yn tynnu’r gweddill o ffynonellau dŵr daear. Dilynwch y linc isod am wybodaeth bellach am adnoddau dŵr Cymru.
Bydd Dŵr Cymru yn cynnal Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (y Cynllun) er mwyn sicrhau bydd dŵr ar gael ar gyfer ein cwsmeriaid pan fo angen, ac ar y lefelau angenrheidiol. Mae’n darogan cydbwysedd cyflenwad a galw rhanbarth y cwmni dros gyfnod o 25 blynedd. Ar hyn o bryd mae Dŵr Cymru yn ymgynghori ar y Cynllun drafft ar y wefan hon a byddwn yn croesawu eich sylwadau.
Mae rhan arall o strategaeth y cwmni yn disgrifio sut byddwn yn rheoli dŵr adeg tywydd anarferol iawn. Cyhoeddodd Dŵr Cymru Cynllun Sychder Drafft yn 2006 sy’n amlinellu strategaeth gyfathrebu a gweithredu adeg sychder. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn disgwyl cyfarwyddyd gan Lywodraeth y Cynulliad cyn cyhoeddi’r Cynllun Sychder terfynol.