RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Adnoddau dwr

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Adnoddau dŵr – cynllun sychder

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058
Adnoddau dŵr

Achosir cyfnodau o sychder gan amrywiadau naturiol yn ein hinsawdd. Os na cheir glaw am gyfnod hir, gellir cael cyfnodau o sychder. Er mwyn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cyfnodau hyn, mae Dŵr Cymru a holl gwmnïau dŵr eraill Prydain yn paratoi ‘Cynllun Sychder’.

Mae Cynllun Sychder Dŵr Cymru’n amlinellu ein strategaeth ar gyfer rheoli ein gwaith yn ystod y cyfnodau hyn a all arwain at brinder dŵr. Mae ein Cynllun Sychder ni yn rhoi disgrifiad manwl o’r camau y byddem yn ystyried eu cymryd yn ystod cyfnod o sychder, fesul parth yn ein hardal gyflenwi, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig cystal gwasanaeth ag y bo modd i’n cwsmeriaid. Rydym yn sylweddoli bod ein Cynllun Sychder yn gymhleth ond mae hynny’n dangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r holl opsiynau.

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru’n credu’n gryf mewn gwarchod yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo. Mae rhyw 90 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru ac mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ymestyn dros fwy na 10 y cant o arwynebedd tir Cymru. Felly, rydym wedi paratoi adroddiad cwmpasu amgylcheddol manwl. Rydym yn ymroi i ddarparu rhaglen fonitro drwyadl er mwyn sicrhau ein bod yn amharu cyn lleied ag y bo modd ar yr amgylchedd, hyd yn oed mewn cyfnod o sychder.

 

Sefyllfa gyfredol y dŵr

Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr

Cynllun sychder

Defnyddio dŵr yn effeithlon

corner

Gwybodaeth bellach