Isod, ceir amlinelliad o’r camau y mae’n ofynnol i ni eu cymryd wrth ymgynghori ar ein cynllun sychder:
Camau:
1
Cyflwyno Cynllun Sychder Drafft i’r Ysgrifennydd Gwladol ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru
31 Mawrth 2006
2
Cyhoeddi Cynllun Sychder Drafft ar ein gwefan ar gyfer Ymgynghori Cyhoeddus a’i anfon at randdeiliaid allweddol a nodir o dan y Rheoliadau
Erbyn 14 Gorffennaf 2006
3
Cyflwyno’ch sylwadau chi am gyfnod o 8 wythnos
14 Gorffennaf 2006 tan 8 Medi 2006
4
DCWW yn cyhoeddi datganiad yn ymateb i’r holl sylwadau a dderbynnir
Erbyn 27 Hydref 2006
5
Mae’n bosib y cynhelir Ymchwiliad Cyhoeddus o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth Cynulliad Cymru
6
Paratoi Cynllun Sychder Terfynol mewn ymgynghoriad â’r sylwadau a dderbynnir, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth Cynulliad Cymru
7
Cyhoeddi Cynllun Sychder Terfynol
Erbyn Mehefin 2007 os na fydd angen cymryd Cam 5
Ar 25 Mai 2006, dywedodd Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth Dŵr Cymru Welsh Water efallai y byddai’n rhaid hepgor rhai rhannau o’r Cynllun Sychder am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd masnachol *. Mae’r rhannau hyn wedi’u nodi’n glir yn y Cynllun Sychder.