RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Gostwng gollyngiadau

Gostwng gollyngiadau

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Mae Dŵr Cymru yn benderfynol o isafu lefelau gollyngiadau. Mae’r rhwydwaith cyflenwi dŵr yn cynnwys 27,000 cilomedr o bibellau a dros amser mae pwysau’r tywydd, tymheredd ac ati yn galw am raglen cynnal a chadw barhaus. Wrth fuddsoddi symiau sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i ostwng lefelau gollyngiadau 33% ac erbyn hyn maent yn cymharu â chyfartaledd y diwydiant cyfan.

Os yn sylwi dŵr yn gollwng o un o’n pibellau cyflenwi, hysbyswch ni’n syth ar 0800 281 432.

Mae Dŵr Cymru yn ymwybodol fod pobl yn gallu bod yn ansicr o ran pwy sy’n gyfrifol am gynnal a thrwsio’r bibell gyflenwi sy’n gwasanaethu eu cartrefi. Bydd yr ansicrwydd yn tueddu i godi pan fydd cwsmer yn datgelu gollyngiad yn ei gartref ac yn edrych i’w drwsio. Mae’r diagram isod yn dangos terfyn cyfrifoldeb Dŵr Cymru am y rhwydwaith cyflenwi a ble mae cyfrifoldeb cwsmeriaid yn dechrau.

Rhwydwaith dwr

Fel rhan o ymrwymiad y cwmni i ostwng gollyngiadau, fel arfer byddwn yn ceisio trwsio un gollyngiad ar bibell gyflenwi cwsmer, yn ddi-dâl. Os bydd y bibell gyflenwi mewn cyflwr gwael, mae’n bosibl y penderfynwn adnewyddu hyd at 15 metr o’r bibell, eto’n ddi-dâl. Am fanylion ein cynllun trwsio gollyngiadau, galwch 0800 052 0138 a gofyn am y ddalen ‘gollyngiadau’.

Gall pawb helpu i ddefnyddio dŵr yn effeithiol. Bydd yr awgrymiadau isod yn eich helpu i arbed dŵr yn y cartref a’r ardd.

Defnyddio dŵr yn ddoeth yn y cartref

  • Os yn bosibl, cymryd cawod yn lle bath
  • Dewis sestonau fflysh deuol ac isel wrth osod/adnewyddu toiledau
  • Gosod hippo yn eich seston er mwyn gostwng y defnydd o ddŵr
  • Peidio â gadael y tap i redeg wrth frwsio dannedd
  • Cadw potel o ddŵr tap yn yr oergell at ddibenion yfed
  • Llenwi’r peiriannau golchi dillad a llestri cyn eu defnyddio, neu ddewis y botwm hanner llwyth
  • Prynu peiriannau golchi dillad a llestri cyfradd ‘A’ effeithiol 
  • Osgoi llenwi tegell, berwi dim ond y dŵr sydd angen
  • Osgoi golchi llysiau o dan y tap, defnyddio powlen yn lle
  • Newid wasier ar dap sy’n diferu
  • Defnyddio bwced o ddŵr i olchi car yn lle pibell ddŵr

Defnyddio dŵr yn ddoeth yn yr ardd

  • Defnyddio dŵr gwastraff y tŷ i ddyfrio’r ardd
  • Peidio defnyddio taenellwr i ddyfrio’r ardd, defnyddio can dŵr neu bibell law
  • Defnyddio can dŵr yn lle pibell ddŵr a dyfrio bonion planhigion yn unig
  • Trio dyfrio’r ardd gyda’r nos pan fydd llai o ddŵr yn anweddu
  • Gosod casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer yr ardd
  • Ystyried plannu planhigion sy’n gallu goddef sychder Rhoi gwellt sych o gwmpas planhigion er mwyn helpu i gadw pridd yn llaith
corner

Gwybodaeth bellach

Water resources management 'headroom' position

Pwynt 'headroom' rheoli adnoddau dŵr

Clic yma i weld map yn dangos ein pwynt 'headroom' cyfredol.

Dŵr yn gollwng o'n pibellau cyflenwi?

Dŵr yn gollwng o'n pibellau cyflenwi?

Galwch 0800 281 432 (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos)

Adroddiad sefyllfa adnoddau dŵr

Adroddiad sefyllfa adnoddau dŵr

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

File size: 81kb


Cynllun Adnoddau Dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 32kb