Y Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni ac am adolygu ei berfformiad gweithredol ac ariannol. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cynnwys 3 cyfarwyddwr gweithredol a 8 cyfarwyddwr anweithredol (yn cynnwys cadeirydd y Bwrdd). Dyma nhw:
Bob AylingCadeirydd
Wedi’i benodi fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Ebrill 2008, daeth Mr Ayling (63) yn Gadeirydd Glas Cymru yng Ngorffennaf 2010. Daw'n Gadeirydd Glas Cymru ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cwmni ym mis Gorffennaf 2010. Mae hefyd yn Is-Gadeirydd Dyson Limited ac yn Gadeirydd y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Datrys Anghydfodau. Cyfreithiwr yw Mr Ayling. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad yn y Ddinas yn Llundain ac fel uwch-gynghorydd cyfreithiol i'r Llywodraeth yn yr Adran Masnach a Diwydiant. Bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Brif Weithredwr British Airways plc rhwng 1993 a 2000. Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd Holidaybreak plc ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Royal & Sun Alliance Insurance Group.
Nigel Annett Rheolwr Gyfarwyddwr
Penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ionawr 2005. Mae Mr Annett (51) wedi bod yn gyfarwyddwr gweithredol o Glas Cymru ers Ebrill 2000, ac o Dŵr Cymru ers Mai 2001. Roedd gynt yn gyfarwyddwr Dŵr Cymru rhwng 1992 a 2000 a chyn hynny wedi dal amryw swyddi gyda banciau buddsoddi megis Schroders, County Natwest a Wasserstein Perella.
Chris JonesCyfarwyddwr Cyllid
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid Glas Cymru yn Ebrill 2000 ac o Dŵr Cymru ym Mai 2001. Roedd Mr Jones (46) gynt yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio Dŵr Cymru a South Wales Electricity Plc. Cyn ymuno â Dŵr Cymru yn 1995, roedd yn gyfarwyddwr National Economic Research Associates a chyn hynny gweithiodd yn y Trysorlys ym maes cyfleustodau a phreifateiddio. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Principality Building Society.
Peter Perry Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Penodwyd yn gyfarwyddwr gweithredu ym mis Gorffennaf 2006. Cefndir Mr Perry (48) yw peirianneg sifil ac roedd gynt yn brif swyddog gweithredu United Utilities Operational Services (UUOS), ar ôl cyfnod fel cyfarwyddwr gweithredu UUOS gyda chyfrifoldeb am y contract gweithredu rhwng Dŵr Cymru a diddordebau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn ymuno ag UUOS gweithiodd i Dŵr Cymru am dros 17 blynedd.
John Bryant Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym Mawrth 2001. Roedd Mr Bryant (66) gynt yn brif weithredwr British Steel a, hyd fis Rhagfyr 2000, yn gyd brif weithredwr Corus Plc. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Costain Group Plc ac roedd yn gyfarwyddwr anweithredol o Bank of Wales Plc rhwng 1996 a 200.
Geraint Talfan Davies Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd Mr Davies (66) yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Gorffennaf 2000. Bu'n newyddiadurwr gyda chyrff darlledu yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac ef oedd Rheolwr BBC Cymru trwy gydol y 1990au. Mae'n Gadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig ac Opera Cenedlaethol Cymru ac yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Safonau'r Cyfryngau. Yn ogystal, bu'n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Tony Hobson Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol yn Chwefror 2001. Mae Mr Hobson (62) yn gadeirydd The Sage Group plc, Northern Foods Plc a Changing Faces – yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl gyda namau ar eu cyrff neu wynebau. Fel cyfrifydd siartredig, roedd yn gyfarwyddwr cyllid Legal & General Group Plc am 15 blynedd cyn ymddeol yn 2001
Yr Athro Stephen PalmerCyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yr Athro Palmer (58) yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Hydref 2009. Mae'n Athro Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Diogelu Iechyd Prif Swyddog Meddygol Cymru. Ers 2003, bu'n Gyfarwyddwr is-adran peryglon cemegol yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, yr is-adran gwasanaethau lleol a rhanbarthol, ac yn bennaeth epidemioleg. Ac yntau'n Gymrawd yng Nghyfadran Iechyd y Cyhoedd a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr, bu'n ffigwr dylanwadol ym maes iechyd y cyhoedd ers dros 25 mlynedd. Bu'n dal sawl swydd broffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ac mae wedi ysgrifennu llu o lyfrau a phapurau a adolygwyd gan gymheiriaid am glefydau heintus a pheryglon cemegol.
James Strachan Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Mehefin 2007. Mae Mr Strachan (56) yn gyfarwyddwr anweithredol o Legal & General Group Plc. Roedd gynt yn gadeirydd y Comisiwn Archwilio (2002-06) ac yn aelod o fwrdd Ofgem, y rheoleiddiwr ynni. Mae’n gadeirydd RNID (yr elusen anabledd) ble roedd gynt yn brif weithredwr, yn ymddiriedolwr o Somerset House ac yn gyn-gomisiynydd hawliau anabledd ac ymddiriedolwr o Save the Children. Roedd yn gyn aelod o Care UK Plc, a Llys Cyfarwyddwyr Banc Lloegr. Yn gynharach yn ei yrfa roedd Mr Strachan yn fancwr buddsoddi gyda Merrill Lynch am 13 blynedd, a thua diwedd y cyfnod yn aelod o fwrdd Merrill Lynch International.