RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Glas Cymru > Pwyllgorau’r Bwrdd

Pwyllgorau’r Bwrdd

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Mae pedwar pwyllgor:

Pwyllgor Ansawdd ac Amgylchedd, cadeirydd y Fonesig Deirdre Hine. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob mis er mwyn cynghori’r Bwrdd ar unrhyw fater yn ymwneud â pholisïau ac arferion gweithredu wrth ddilyn rheoliadau dŵr yfed a deddfau a rheoliadau amgylcheddol. Yn ogystal, bydd yn adolygu perfformiad Dŵr Cymru yn erbyn mynegeion perfformiad allweddol, yn benodol ym meysydd iechyd cyhoeddus, iechyd a diogelwch ac effaith amgylcheddol. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad ar ei waith bob blwyddyn. Am gopi o’r adroddiad diweddaraf, clic yma.

Pwyllgor Archwilio, cadeirydd Tony Hobson. Ei rôl:

  • adolygu a chynghori’r Bwrdd ar y datganiadau ariannol blynyddol ac interim, polisïau cyfrifeg a rheoli risgiau cyllid a busnes;
  • adolygu natur a sgôp gwaith yr archwilwyr allanol a mewnol, canlyniadau archwiliadau ac ymateb rheolwyr;
  • adolygu natur a sgôp gwaith yr archwilwyr allanol a mewnol, canlyniadau archwiliadau ac ymateb rheolwyr;
  • adolygu a chynghori’r Bwrdd ar effeithiolrwydd amgylchedd rheoli mewnol y cwmni; gwneud argymhellion ar benodiad a thâl yr archwilwyr allanol, a monitro eu perfformiad; cymeradwyo a monitro’r polisi gwasanaethau nid-archwilio a gyflwynir i’r Grŵp gan yr archwilwyr allanol er sicrhau annibyniaeth yr archwilwyr.

Pwyllgor Taliadau, y Pwyllgor yma sy’n gyfrifol am bennu polisïau a fframwaith cyffredinol taliadau i gyfarwyddwyr gweithredol ac uwch reolwyr. Mae hefyd yn pennu natur ac amrediad taliadau perfformiad sy’n gwobrwyo unigolion o fewn y cwmni am eu cyfraniad at lwyddiant y busnes.

Pwyllgor Enwebiadau, cadeirydd yr Arglwydd Burns. Rôl y pwyllgor yma yw adolygu maint, strwythur ac aelodaeth y Bwrdd. Mae’n arwain y broses o wneud penodiadau i’r Bwrdd, gan sicrhau y dilynir prosesau cadarn ac agored i benodi Cyfarwyddwyr newydd a bod cynlluniau mewn bodolaeth i gynnal aelodaeth y Bwrdd ac i benodi uwch reolwyr.

Nodir manylion gwaith y Pwyllgorau yn Adroddiad & Cyfrifon Blynyddol Glas Cymru 2006-07.

corner

Gwybodaeth bellach

Adroddiad & Cyfrifon Blynyddol 2005-06

Adroddiad a Cyfrifon 2007

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 1,887kb


Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ansawdd ac Amgylchedd

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ansawdd ac Amgylchedd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 520kb