Rheoliad
Mae’r adran hon yn trafod ‘trwyddedau cyflenwi dŵr’, ‘cod mynediad rhwydwaith’ a ‘prisiau mynegol’ Dŵr Cymru.
Cystadleuaeth
Ym mis Gorffennaf 2007 cyhoeddodd Ofwat, awdurdod rheoli dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr, y gyntaf o gyfres o ddogfennau ymgynghori er symbylu trafodaeth ehangach o’r opsiynau i hyrwyddo cystadleuaeth yn y sectorau dŵr a charthffosiaeth. Dyma ymateb Dŵr Cymru i gwestiynau’r ymgynghoriad, ynghyd â’n dogfen safbwynt yn nodi cyd-destun ymgynghoriad Ofwat.
Ar 20 Tachwedd 2008 cyhoeddodd Ofwat ddechrau cyfnod ymgynghori 28 diwrnod ar gynlluniau Scottish & Southern Energy Water i ddarparu gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth ar gyfer datblygiad newydd o ryw 2,000 cartref yn “Valleywood” ger Penybont. Gallai hynny olygu biliau uwch i gwsmeriaid, diffyg atebolrwydd am wasanaeth cyhoeddus hanfodol a chanlyniadau anffafriol i fodel nid-er-elw’r cwmni.
Ym Medi 2009 dechreuodd y llywodraeth ymgynghoriad 12 wythnos ar argymhellion Cave. Dyma ymateb Dŵr Cymru i’r ymgynghoriad hwnnw.
Penodiad gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth Llanilid
Ar 20 Tachwedd 2008, cyhoeddodd Ofwat ddechrau ymgynghoriad 28 diwrnod ar gynlluniau Scottish & Southern Energy Water i ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer datblygiad newydd o oddeutu 2,000 cartref yn “Valleywood”, ger Penybont.
Roeddem yn pryderu y gallai’r penodiad hwn arwain at filiau uwch ar gyfer cwsmeriaid, colli atebolrwydd gwasanaeth cyhoeddus hanfodol a chael effaith negyddol ar ein model busnes nid-er-elw. Manylwyd ein pryderon mewn gohebiaeth gydag Ofwat.
5 Chwefror 2009
28 Ionawr 2009
12 Rhagfyr 2008
27 Tachwedd 2008
Ar 3 Mawrth 2009, penodwyd Scottish & Southern Energy Water gan Ofwat yn ddarparwr gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth y safle. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd Dŵr Cymru herio’r penderfyniad mewn adolygiad barnwrol. Trefnwyd gwrandawiad yn yr Uchel Lys Barn ar 10 Rhagfyr 2009. Ar ôl gwrando ar y dadleuon ac ystyried y mater yn ofalus rhoddodd Mr Ustus Mitting ei ddyfarniad yn cadarnhau bod polisi Ofwat mewn cysylltiad â phenodiadau ‘inset’ yn gyfreithlon a rhesymol ac roedd hawl ganddo i’w weithredu fel y gwnaeth ar y safle.
Yn awr rydym yn cydweithio â Scottish & Southern Energy Water ar y trefniadau i ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer safle Llanilid.
|